David Cameron
Fe fydd David Cameron yn ymuno ag arweinwyr Nato eraill heddiw i ail-ategu ei amserlen ar gyfer tynnu milwyr o Afghanistan erbyn diwedd 2014.

Wrth i’r arweinwyr ac aelodau o’r llu rhyngwladol Isaf ymgynull yn Chicago, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn hyderus y gall lluoedd diogelwch Afghanistan atal terfysgwyr rhag ymsefydlu yn y wlad unwaith i luoedd Nato adael.

Dywedodd “un fordd neu’r llall fe fydd y rhan fwyaf o filwyr Prydain yn dod adre wrth i Afghanistan gymryd y cyfrifoldeb am ei diogelwch ei hun.