David Cameron
Yr argyfwng ariannol yn Ewrop fydd prif bwnc trafod arweinwyr gwledydd y G8 yn ystod ail ddiwrnod yr uwch-gynhadledd yn yr UDA heddiw.

Dechreuodd yr uwch gynhadledd i arweinwyr UDA, yr Almaen, Rwsia, Japan, yr Eidal, Canada, Ffrainc a’r DU yn Camp David ger Washington ddoe.

Mae’r Arlywydd Obama ac Arlywydd newydd Ffrainc, Francois Hollande, eisiau gweld gwledydd Ewrop yn canolbwyntio ar dŵf economaidd ond mae polisi economiadd yr Almaen yn seiliedig ar gynilo.

Bydd dyfodol Gwlad Groeg fel aelod o barth yr Ewro hefyd yn cael ei drafod. Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi dweud bod rhaid i lywodraeth y wlad benderfynu os ydyn nhw am barhau i ddefnyddio’r ewro ai pheidio.

“Rydan ni angen gweithredu pendant gan wledydd yr ewro er mwyn cryfhau banciau’r parth ewro, er mwyn amddiffyn yr ewro yn gryf ac er mwyn gweithredu yn yn bendant ynglyn â Gwlad Groeg. Mae’n rhaid gwneud hyn,” meddai.

Anghytuno

Yn y cyfamser, mae Comisiynydd Masnach yr Undeb Ewropeaidd, Karel De Gucht wedi dweud bod swyddogion yr Undeb eisoes yn creu cynlluniau wrth gefn rhag ofn i Groeg adael trefn yr Ewro.

Cafodd y datganiad ei wrth-ddweud gan y Comisiynydd Materion Economaidd, Olli Rehn ddywedodd “nad oeddyn nhw yn gweithio ar  gynlluniau yn ymwneud â Groeg yn gadael,”.

Mae’r anghytuno rhwng llywodraethau Gwlad Groeg a’r Almaen ynglyn a sylwadau Canghellor yr Almaen, Angela Merkel am gynnal refferendwm yng Ngwlad Groeg am eu haelodaeth o’r Ewro hefyd yn rhygnu ymlaen.

Roedd datganiad o swyddfa Prif Weinidog dros dro Groeg yn dweud bod y Canghellor wedi trafod y posibilrwydd o gynnal refferendwm ar adael yr Ewro yr un pryd a’r etholiadau cyffredinol nesaf  ar 17 Mehefin yn ystod sgwrs efo’r Arlywydd Karolos Papoulias.

Mae llywodraeth Berlin wedi gwadu’r honniad yn chwyrn.

Mi allai gweld Gwlad Groeg yn gadael yr Ewro achosi trafferthion ariannol difrifol i wledydd fel Sbaen a’r Eidal sydd hefyd yn wan yn economaidd a hynny wedyn yn achosi cynnwrf ariannol ym mhedwar ban y byd.

Trafodaethau G8 ddoe

Mae arweinwyr gwledydd G8 eisoes wedi trafod materion yn ymwneud â Iran, Gogledd Korea a Syria ddoe, sef diwrnod cyntaf y gynhadledd.

Cytunodd yr arweinydd i gyd bod y pwysau ar Iran i brofi bod rhaglen niwcliar y wlad yn heddychlon, bod angen gweld gweithredu cynllun heddwch y Cenhedloedd Unedig yn Syria gan arwain at drosglwyddo grym llywodraethol yno, a bod Gogledd Korea mewn perygl o gael ei hynysu ymhellach os yw’n parhau i ddilyn polisiau all gythruddo gwledydd eraill.