Riccardo Muti (Llun gan Andreas Praefcke)
Bu’n rhaid i arweinydd Cerddorfa Symffoni Chicago, Riccardo Muti, dreulio cyfnod yn yr ysbyty ar ôl iddo syrthio oddi ar lwyfan.

Mae’n debyg fod yr arweinydd cerddorfa byd-enwog, sy’n 69 oed, wedi llewygu wrth arwain y gerddorfa yn ystod ymarfer.

Dywedodd y doctor sydd yn ei drin yn Ysbyty Coffäol Northwestern fod disgwyl iddo wella yn llawn.

Bu’n rhaid gosod sgriwiau a phlatiau yng ngwyneb Riccardo Muti, a weiren dros-dro er mwyn cynnal ei ên isaf.

Dywedodd llywydd y gerddorfa, Deborah Rutter, fod yr ysbyty hefyd yn cynnal profion er mwyn penderfynu pam fod yr arweinydd wedi llewygu.

Y llynedd bu’n rhaid i Riccardo Muti dderbyn triniaeth mewn ysbyty yn yr Eidal ar ôl dioddef o flinder corfforol difrifol.