Brenin Sbaen
Mae tref yn rhanbarth Catalonia wedi datgan nad oes croeso yno i frenin Sbaen.
Mae’r penderfyniad yn ergyd arall i’r brenin 74 oed sydd wedi ei feirniadu yn hallt wedi iddo fynd i hela eliffantod ynghanol yr argyfwng ariannol.
Torrodd y brenin ei glun yn ystod y safari ym Motswana tra bod un ym mhob pedwar o bobol ei wlad yn ddi-waith.
Pleidleisiodd cyngor tref Berga – sy’n gartref i tua 17,000 o bobol – o blaid gwrthod y Brenin petai’n ceisio ymweld.
Cynigwyd y gwaharddiad gan blaid y Candidatures d’Unitat Popular sy’n ymgyrchu o blaid sicrhau annibyniaeth i Gatalonia.
Mae Berga 67 milltir i’r gogledd o brifddinas Catalonia, Barcelona.