Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn dod o dan bwysau gan seneddwyr yr Unol Daleithiau i gynnal ymchwiliad annibynnol mewn i’r penderfyniad i ryddhau bomiwr Lockerbie.

Fe ddaw’r galwadau ar ôl i adolygiad ddoe gasglu bod y cyn-Lywodraeth Lafur wedi gwneud “popeth yn eu gallu” i helpu Libya i sicrhau bod Abdelbaset al-Megrahi yn cael ei ryddhau.

Fe ddywedodd seneddwr New Jersey, Robert Menendez ei bod yn bwysig cynnal ymchwiliad annibynnol i sicrhau’r gwirionedd llawn.

Yn ôl seneddwr Efrog Newydd, Kirsten Gillibrand, wedi dweud bod adroddiad Syr Gus O’Donnell yn “achosi pryder”, gan ychwanegu “na ddylai buddion economaidd a masnach cael blaenoriaeth dros gyfiawnder”.

Adolygiad

Fe gafodd adolygiad o ddogfennau’r achos eu cynnal gan Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Gus O’Donnell ar orchymyn David Cameron ac fe ddangosodd hynny bod y Llywodraeth yn Llundain wedi rhoi cyngor i Libya am y ffordd orau i weithredu.

Fe ddywedodd bod gweinidogion Prydeinig yn credu mai rhyddhau bomiwr Lockerbie fyddai’r orau gan y byddai gadael iddo farw mewn carchar yn yr Alban yn niweidio buddiannau’r Deyrnas Unedig yn Libya.

Mae dogfennau’n dangos bod swyddogion wedi argymell y dylai gweinidogion fod yn “weithgar ond yn synhwyrol” wrth weithio i ryddhau al-Megrahi.

Ond fe gasglodd Syr Gus O’Donnell bod y penderfyniad wedi cael ei wneud gan weinidogion yn Llywodraeth Yr Alban a neb arall.