William Hague - trydar
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor yn ymweld â phump o wledydd yn y Dwyrain Canol gan ddweud fod hwn yn amser “o gyfle mawr” i’r rhanbarth.

Mae William Hague yn dechrau trwy gyfarfod y Llywodraeth tros dro yn Tunisia lle cafodd yr Arlywydd ei ddisodli gan brotestiadau poblogaidd.

Roedd hynny yn ei dro wedi ysbrydoli’r protestiadau mawr yn yr Aifft ble mae gwrthdystwyr wedi meddiannu un o sgwariau’r brifddinas, Cairo, ers bron bythefnos.

Maen nhwthau eisiau cael gwared ar yr Arlywydd yno, Hosni Mubarak – fe ymddiswyddodd Arlywydd Tunisia, Zine El Abidine Ben Ali, ar Ionawr 14 ar ôl dyddiau o brotestio.

Diwygio

Fe fydd William Hague yn cyhoeddi grantiau ariannol i helpu prosiectau diwygio yn Tunisia, a gwledydd eraill yn y rhanbarth.

Fe fydd yn cyfarfod rhai o arweinwyr y Llywodraeth tros dro sydd wedi cael cefnogaeth gan y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill yn y Gorllewin.

Maen nhw’n awyddus i weld rhagor o ddiwygio yn y Dwyrain Canol.

Datgelu ar Twitter

Mae’r Swyddfa Dramor wedi gwrthod datgelu i ba wledydd eraill y bydd yr Ysgrifennydd yn mynd.

William Hague ei hun oedd wedi cyhoeddi ei fod ar ei ffordd i Tunisia, gan dorri embargo gwybodaeth y Swyddfa Dramor ei hun.

Roedd wedi anfon neges trydar yn dweud ei fod ar y ffordd, a hynny chwe awr cyn y cyhoeddiad swyddogol.