Mae newyddiadurwr o Ffrainc ar goll yng Ngholombia ar ôl i wrthryfelwyr Farc ymosod ar filwyr oedd yn ceisio dinistrio labordai cocên.

Roedd Romeo Langlois yn teithio gyda’r fyddin gan ei fod yn gwneud rhaglen ddogfen am y frwydr yn erbyn cyffuriau a mwyngloddio anghyfreithlon yn y wlad.

Mi wnaeth un swyddog o’r heddlu a thri milwr gael eu lladd yn yr ymosodiad, ac fe anafwyd pedwar. Mae pum milwr arall ar goll.

Mae’r gwrthryfelwyr Farc yn dibynnu ar y labordai cocên i greu incwm iddyn nhw.

Ym mis Chwefror eleni mi wnaeth Farc ddatgan eu bod nhw rhoi’r gorau i herwgipio, ac mi wnaethon nhw ryddhau deg gwystl oedd wedi cael eu dal ganddyn nhw am dros ddegawd yn gynharach y mis hwn. Mae arweinydd Farc, Rodrigo Londono, sy’n cael ei adnabod fel Timochenko, wedi cynnig cynnal trafodaethau heddwch gyda llywodraeth Colombia. Ond mae’r Arlywydd Juan Manuel Santos wedi gwrthod y cynnig.