Mae cwmni bwyd cyflym KFC yn gorfod talu dros £5 miliwn i deulu merch ddioddefodd ddifrod i’w hymennydd ar ôl bwyta wrap Twister cyw iâr.

Fe gafodd Monika Samaan ei gwenwyno gyda salmonella a bu mewn coma am chwe mis pan oedd yn saith oed.

Wedi iddo ddeffro roedd wedi colli’r gallu i gerdded ac yn gaeth i gadair olwyn.

A hithau bellach yn 14 oed, mae ei rhieni wedi ennill achos llys hirfaith a chael £5miliwn o iawndal.

Mae KFC wedi gwrthod maen nhw oedd ar fai ac yn bwriadu apelio.

Fe glywodd achos llys yn Sydney, Awstralia, bod brawd a rhieni’r ferch hefyd wedi gorfod cael triniaeth mewn ysbyty ar ôl rhannu’r pryd bwyd.

Yn ôl y teulu maen nhw angen yr arian i ofalu am Monika Samaan.

Ond mae KFC yn dweud nad yw’r teulu yn gallu profi eu bod wedi bwyta’r Twister.