Ysgol wedi ei ddinistrio yn Sierra Leone
Mae cyn-arlywydd Liberia, Charles Taylor, wedi ei gael yn euog o helpu ac annog troseddau rhyfel yn erbyn dynoliaeth wrth gefnogi rebeliaid Sierra Leone, a hynny yn gyfnewid am ddeiamwntau.

Pasiwyd y ddedfryd ar y rhyfelwr 64 oed gan farnwyr rhyngwladol yn yr Yr Hâg.

Dywedodd y Barnwr Richard Lussick fod erlynwyr wedi profi tu hwnt i bob amheuaeth rhesymol fod Charles Taylor yn “gyfrifol yn droseddol” am helpu ac annog troseddau gan rebeliaid yn rhyfel cartref gwaedlyd Sierra Leone.

Fe blediodd Charles Taylor yn euog i 11 cyhuddiad, gan gynnwys llofruddiaeth, trais, terfysg a gorfodi plant i fod yn filwyr.

Dywedodd y Barnwr Lussick fod Taylor wedi darparu arfau, bwledi, offer cyfathrebu a chynllunio i wrthryfelwyr oedd yn gyfrifol am nifer o erchyllterau’r rhyfel cartref yn Sierra Leone rhwng 1991-2002. Disgrifiodd y Barnwr fod cefnogaeth Charles Taylor i’r gwrthryfelwyr yn “gyson ac yn sylweddol.”

Roedd Charles Taylor yn y llys i glywed ei fod wedi ei gael yn euog o’r 11 cyhuddiad. Bydd dedfryd yn cael ei basio’n ddiweddarach.

Gallai’r cyn-Arlywydd wynebu hyd at oes o garchar am ei droseddau, ac fe fydd yn treulio’i ddedfryd ym Mhrydain.

Daeth ei achos i ben flwyddyn yn ôl, ond mae’r barnwyr wedi bod yn ystyried eu penderfyniad ers hynny.

Y cyntaf – ond nid yr olaf

Charles Taylor yw’r arweinydd cenedlaethol cyntaf i gael ei ddedfrydu gan y llys rhyngwladol. Ond mae’n anhebygol mai ef fydd yr olaf.

Mae cyn-Arlywydd y Traeth Ifori, Laurent Gbagbo hefyd dan glo yn yr Hâg ar hyn o bryd yn disgwyl i’w achos fynd o flaen y Llys Troseddau Rhyngwladol ar gyhuddiad o droseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth, a gyflawnwyd, fe honnir, yn ei ymgais i gadw grym y llynedd wedi iddo golli’r etholiad arlywyddol.

Mae’r un llys hefyd wedi cyhuddo arlywydd Sudan, Omar al-Bashir, o hil-laddiad yn sgil ymosodiad ei luoedd ar wrthryfelwyr Darfur. Mae al-Bashir yn dal â’i drawed yn rhydd yn y wlad, sydd ei hun ddim yn cydnabod awdurdodd y Llys Troseddau Rhyngwladol.

Roedd y llys wedi cyhuddo unben Libya, Muammar Gaddafi, o droseddau yn erbyn dynoliaeth y llynedd, wrth iddo ddechrau lladd ac erlid bobl gyffredin er mwyn ceisio tawelu protestiadau yn erbyn ei gyfundrefn, ond cafodd ei ddal a’i ladd gan wrthryfelwyr cyn iddo wynebu llys barn.