Mallorca
Dyw ympryd Jaume Bonet a Tomeu Amengual dros hawliau’r Gatalaneg ddim wedi cael unrhyw effaith ar y llywodraeth, yn ôl un fenyw sy’n byw ar yr ynys.

Mae’r ddau bellach wedi rhoi’r gorau i’r protest ar ôl gwrthod bwyta am 41 diwrnod rhyngddyn nhw.

Amddiffyn yr iaith oedd bwriad eu safiad, yn ôl Margalida Bonnin.  Mae llywodraeth newydd Ynysoedd y Balearic a ddaeth i rym yn 2011 yn ceisio cyflwyno newidiadau ieithyddol, meddai.

‘‘Nawr mae’r llywodraeth am wneud newidiadau i’r gyfraith iaith,” meddai.

“Gyda’r newidiadau, bydd dealltwriaeth a’r defnydd o Gatalaneg gan weithwyr sifil ddim yn anghenrheidiol ar gyfer cael swydd.  Mae’r cyfreithiau newydd yn golygu na fydd yr iaith yn orfodol ym myd addysg.’’

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 26 Ebrill