Julian Assange
Mae yna berygl na fyddai Julian Assange yn cael cyfiawnder pe bai’n cael ei anfon i Sweden i wynebu cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Dyna ddadl ei gyfreithiwr wrth i sylfaenydd Wikileaks ymddangos o flaen Llys Ynadon Belmarsh heddiw. Mae’n gwadu ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Dywedodd Geoffrey Robertson y gallai ei gleient wynebu’r gosb eithaf os ydyw’n cael ei anfon o Sweden i’r Unol Daleithiau i wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â’r wefan ddadleuol.

Ychwanegodd bod Julian Assange, 39, yn wynebu “treial gan y cyfryngau” a fyddai’n “rhagfarnu’r achos llys” yn ei erbyn.

Ond dywedodd erlynyddion y byddai Llys Hawliau Dynol Ewrop yn ymyrryd pe bai hynny’n digwydd.

Mae tîm cyfreithiol Julian Assange wedi rhyddhau dogfen 74 tudalen yn amlinellu eu dadleuon yn erbyn ei anfon i Sweden.

Maen nhw’n amau a ydi’r Warant Ewropeaidd i’w arestio yn ddilys ac maen nhw’n honni y byddai ei anfon o Brydain yn mynd yn erbyn ei hawliau dynol.