Madeleine McCann
Mae Scotland Yard wedi annog yr awdurdodau ym Mhortiwgal i ail-agor yr ymchwiliad i ddiflaniad Madeleine McCann.

Mae ditectifs wedi datgelu eu bod wedi cael 195 o awgrymiadau posib a allai arwain at ddod o hyd iddi’n fyw.

Fe ddiflannodd Madeleine, oedd yn dair oed ar y pryd, o’r fflat lle’r oedd y teulu yn aros yn Praia da Luz wrth i’w rhieni gael pryd o fwyd gyda ffrindiau gerllaw. Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers iddi ddiflannu.

Dywed ditectifs sy’n arwain yr adolygiad ar ran Heddlu’r Metropolitan y gallai’r achos gael ei datrys cyn i lun ohoni gael ei gyhoeddi yn dangos sut byddai’n edrych erbyn hyn, yn naw oed.

Mae’r heddlu wedi gwrthod dweud pa dystiolaeth sydd ganddyn nhw sy’n awgrymu bod Madeleine yn fyw.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Andy Redwood fod ei dim o fwy na 30 o swyddogion sydd ynghlwm â’r achos wedi ymweld â Phortiwgal saith gwaith, gan gynnwys mynd i’r fflat yn Praia da Luz lle’r oedd y teulu yn aros.

Dywed yr heddlu bod Portiwgal yn dal i fod yn allweddol yn yr ymchwiliad i ddod o hyd i Madeleine ac maen nhw wedi apelio ar y bobl yno i roi unrhyw wybodaeth sydd ganddyn nhw i helpu’r ymchwiliad. Yn ôl yr heddlu mae ’na bosibilrwydd ei bod wedi cael ei chipio gan rywun.

Mae’n ymddangos bod ditectifs ym Mhortiwgal hefyd yn awyddus i ail-agor yr ymchwiliad ond bydd yn rhaid iddyn nhw gael caniatâd barnwrol cyn gwneud hynny.