Mae milwyr Syria wedi ymosod ar un o faestrefi’r brifddinas Damascus heddiw, meddai ymgyrchwyr.

Daw’r ymosodiadau diwrnod ar ôl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig anfon rhagor o arolygwyr i’r wlad yn y gobaith o gadw’r heddwch yno.

Mae’r brwydro fel arfer yn dod i stop pan mae’r arolygwyr yn bresennol, ond mae yna adroddiadau cyson am fomio a saethu mewn rhannau eraill o’r wlad.

Dywedodd yr ymgyrchydd Mohammed Saeed bod dau o bobol wedi eu lladd gan saethu yn ardal Douma.

Roedd brwydro ffyrnig rhwng milwyr a gwrthryfelwyr yno cyn dechrau cadoediad byrhoedlog wythnos yn ôl.

Mae adroddiadau hefyd bod trydydd person wedi ei ladd dros nos ym mhentref Hteita y tu allan i Ddamascus.

“Mae anfon arolygwyr y Cenhedloedd Unedig yma yn jôc,” meddai Mohammed Saeed. “Mae’r bomio yn dod i ben a’r tanciau yn cael eu cuddio am ychydig oriau, ond yna mae’r brwydro yn parhau unwaith y maen nhw wedi troi eu cefnau.”

Y gred yw bod dros 9,000 o bobol wedi eu lladd ers dechrau’r gwrthryfel ym mis Mawrth 2011.