Nicolas Sarkozy
Mae Nicolas Sarkozy yn wynebu her os yw am gael ei ail-ethol yn Arlywydd Ffrainc, wrth i’r pleidleisio ddechrau yno heddiw.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod pobol y wlad yn anhapus â ymateb yr Arlywydd i’w pryderon am yr economi a swyddi.

Fe fydd y bleidlais heddiw yn chwynnu rhestr o 10 ymgeisydd, a bydd y ddau sy’n weddill yn cystadlu yn yr ail rownd ar 6 Mai.

Fe fydd pwy bynnag sy’n ennill yr ail rownd yn arlywydd ar y wlad am bum mlynedd.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu mai Nicolas Sarkozy a’i wrthwynebydd Sosialaidd, Francois Hollande, sy’n debygol o gyrraedd yr ail rownd.

Serch hynny mae yna siawns y galla’r ymgeisydd adain dde eithafol,  Marine Le Pen, neu’r ymgeisydd Comiwnyddol, Jean-Luc Melenchon, gyrraedd yr ail rownd ar draul Sarkozy.

Wrth amddiffyn ei gyfnod mewn grym mae Nicolas Sarkozy wedi cyfeirio at y trafferthion economaidd ar draws parth yr ewro.

Serch hynny mae’n parhau yn amhoblogaidd iawn yn y wlad, ac mae disgwyl i Francois Hollande ennill yr ail rownd ar 6 Mai yn weddol gyffyrddus.

Bydd yr etholiadau Arlywyddol yn dod i ben mis yn unig cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, sydd ar hyn o bryd yn nwylo ceidwadwyr Nicolas Sarkozy.