Bahrain
Mae awdurdodau Bahrain yn ymchwilio ar ôl cael hyd i gorff dyn yn dilyn gwrthdaro rhwng ymgyrchwyr a’r lluoedd diogelwch yno.

Mae gwrthwynebwyr yn honni bod y dyn wedi ei ladd gan yr heddlu.

Mae’r farwolaeth yn ergyd arall i’r awdurdodau wrth iddyn nhw geisio tawelu’r dyfroedd cyn y ras Grand Prix Formula One yfory.

Mewn datganiad dywedodd gweinidog mewnol y wlad fod yr adran yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd. Ond mae disgwyl i’r farwolaeth hybu protestio pellach yn erbyn y ras yfory.

Mae o leiaf 50 o bobol wedi marw ers dechrau’r gwrthdaro ym mis Chwefror 2011. Mae rhai gwrthryfelwyr ymysg mwyafrif Shiite y wlad yn gobeithio dymchwel y teulu brenhinol Sunni sy’n rheoli yno.

Mae ymgyrchwyr wedi defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol er mwyn annog defnyddio’r ras yfory er mwyn tynnu sylw at ddiffyg democratiaeth yn y wlad.