Costa Concordia
Bydd y gwaith o symud llong hamdden Costa Concordia o’i glwyd garegog ar arfordir yr Eidal yn dechrau fis nesaf, cyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd perchnogion y llong, Crociere SpA, fod disgwyl i’r gwaith gymryd tua blwyddyn i’w gyflawni.
Cwmni o’r Unol Daleithiau, Titan Salvage, enillodd y cytundeb i symud y llong.
Tarodd y Costa Concordia y creigiau ger ynys Giglio ar 13 Ionawr, wedi i’r capten lywio’r llong yn rhy agos at y lan.
Fe fu farw 32 o bobol oedd ar y llong, a does dim golwg o ddau arall.
Mae Titan Salvage yn bwriadu symud y llong mewn un darn a’i gludo i borthladd yn yr Eidal.
Daeth y gwaith o wagio’r olaf o’r tanwydd o’r Concordia i ben ar 24 Mawrth.
Dywedodd Costa mai amddiffyn yr amgylchedd fydd eu blaenoriaeth wrth symud y llong.