Anders Breivik
Mae Anders Breivik wedi dweud wrth lys yn Norwy ei fod wedi bwriadu dal a thorri pen cyn Prif Weinidog Norwy Gro Harlem Brundtland yn ystod ei ymosodiad ar bobl ifainc ar ynys Utoya.

Dywedodd Breivik wrth y llys ei fod wedi bwriadu ffilmio’r dienyddiad a rhoi’r fideo ar y rhyngrwyd.

Roedd Brundtland eisoes wedi gadael gwersyll ieuenctid y Blaid Lafur yn Utoya pan gyrhaeddodd Breivik ar 22 Gorffennaf.

Dywedodd yr eithafwr asgell dde ei fod hefyd wedi bwriadu lladd llawer mwy na’r 69 gafodd eu saethu’n farw ar yr ynys.

Roedd bron i 600 o bobl yno. “Y bwriad oedd eu lladd nhw i gyd,” meddai Breivik.