Bachiad teledu o wasanaeth Newyddion Sky
Mae tanau yn Awstralia dros y penwythnos wedi dinistrio mwy na 50 o gartrefi ac wedi difrodi bron 30 arall.

Fe gafodd nifer o bobol ac un diffoddwraig tân eu hanafu a sawl swyddog arall driniaeth am anadlu mwg ar ôl y tanau yng ngorllewin y wlad.

Ers dydd Sadwrn, mae dau dân gwahanol wedi dinistrio 4,000 erw o dir coedwig i’r gogledd ac i’r de ddwyrain o ddinas Perth.

Fe gafodd y tai eu dinistrio yn nhref Roleyston ac yng nghymuned gyfagos Kelmscott, er gwaetha’ ymdrechion 200 o ddiffoddwyr tan – ac mae’r Gwasanaethau Brys yn y ddwy ardal wedi rhybuddio y gallai rhagor o dai gael eu llosgi.

Mae diffoddwraig a gafodd ei hanafu mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Trychinebau naturiol eraill

Daw’r tanau hyn yn y gorllewin ar ôl i seiclon daro dwyrain y wlad yr wythnos ddiwethaf ac ar ôl llifogydd mawr yn nhaleithiau Queensland a Victoria yn ystod mis Ionawr.

Chwefror yw mis olaf yr haf yn Awstralia  ac mae’n uchafbwynt glawogydd y monsŵn yn y gogledd trofannol yn ogystal â bod yn gyfnod peryglus o ran tanau.