Ban Ki-moon
Mae lluoedd llywodraeth Syria wedi ymosod ar safle gwrthryfelwyr, yn ôl adroddiadau heddiw, gan dorri cadoediad ddaeth i rym wythnos yn ôl.

Yn ôl arsyllwyr hawliau dynol, mae lluoedd y llywodraeth wedi ail-ddechrau ymosod ar ddinas Homs.

Mae’r cadoediad yn rhan o gynllun rhyngwladol i ddechrau trafodaethau rhwng yr Arlywydd Bashar Assad a’r rhai sydd am ei weld yn ildio.

Daeth y cadoediad i rym wythnos yn ôl, ond roedd lluoedd Syria wedi parhau a’u hymosodiadau ddiwrnod ar ôl hynny.

Mae tîm bychan o arsyllwyr o’r Cenhedloedd Unedig yn Syria, ond mae’r pennaeth Ban Ki-moon am weld o leiaf 250 o arsyllwyr yno, ynghyd ag awyrennau a hofrenyddion.