Anders Breivik
Mae’r eithafwr asgell dde sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio 77 o bobl yn Norwy y llynedd wedi cyrraedd y llys yn Oslo bore ma ar gyfer ail ddiwrnod yr achos.

Mae Anders Breivik yn bwriadu darllen datganiad wrth iddo roi tystiolaeth yn y llys heddiw, yn ô lei gyfreithiwr Geir Lippestad.

Mae Breivik, 33, eisoes wedi cyfaddef iddo ffrwydro bom a laddodd wyth o bobl yn Oslo a saethu’n farw 69 o bobl ar ynys Utoya, ger prifddinas Norwy, ond mae’n gwrthod cyfrifoldeb troseddol.

Mae’n honi ei fod wedi bod yn amddiffyn ei hun rhag aml-ddiwyllianedd ac Islam.

Yr hyn fydd yn dwyn sylw yn ystod yr achos fydd cyflwr meddyliol Breivik, i benderfynu a ddylid ei anfon i garchar – mae’n wynebu dedfryd o 21 mlynedd – neu ei anfon i ysbyty i gael gofal seiciatryddol.

Mae rhannau o’r achos wedi cael eu darlledu’n fyw ond ni fydd tystiolaeth Breivik yn cael ei dangos. Mae na bryder y bydd yn defnyddio’r cyfle i gyflwyno ei ddaliadau adain dde.