Julian Assange
Fe fydd sylfaenydd y wefan ddatgelu, WikiLeaks, yn ymddangos yn y Llys heddiw i ymladd ymgais i’w anfon i Sweden i wynebu cyhuddiadau rhywiol.

Mae’r awdurdodau yn Stockholm yn galw am estraddodi Julian Assange, 39 oed, ar honiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes yn ystod ymweliad â’r ddinas ym mis Awst.

Mae disgwyl i’w gyfreithwyr ddadlau y gallai ei anfon i Sweden olygu ei fod wedyn yn cael ei anfon i’r Unol Daleithiau lle gallai wynebu’r gosb eithaf am gyhoeddi dogfennau cudd.

Guantanamo

Maen nhw’n credu fod “risg gwirioneddol” ohono’n cael ei estraddodi eilwaith i’r Unol Daleithiau lle y gallai gael ei gadw ym Mae Guantanamo neu ei gyhuddo o droseddau a fyddai’n arwain at ei ddienyddio.

Fe fydd y gwrandawiad deuddydd yn Llys y Goron Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ac mae tîm cyfreithiol Julian Assange hefyd yn honni y gallai ei anfon i Sweden fynd yn groes i Erthygl 3 o’r Siarter Hawliau Dynol Ewrop sy’n gwahardd arteithio.

Mae Mark Stephens, cyfreithiwr Julian Assange, o gwmni Finers Stephens Innocent wedi addo y bydd yn cymryd y cam anarferol o gyhoeddi dadl gyfreithiol Assange ar-lein ar ddechrau’r gwrandawiad am ddeg o’r gloch heddiw.