Mae cyfres o gorwyntoedd wedi taro taleithau Kansas, Iowa, Nebraska ac Oklahoma yn yr Unol Daleithau gan ladd o leiaf 5 o bobl.

Lladdwyd y bobl wrth i’r wawr dorri dros dref Woodward yn Oklahoma wedi i’r seirenau stormydd fethu gweithio a rhybuddio’r trigolion. Roedd y rhan fwyaf yn cysgu pan darodd y corwynt.

Achosodd gorwynt arall ddifrod i ddinas Wichita, Kansas a chwythwyd y to oddi ar ysbyty yn Des Moines.

Mae arbenigwyr ar gorwyntoedd yn dweud bod rhai gwaeth o lawer ar eu ffordd i’r un ardal yn ystod y dyddiau nesaf.