Mae’r Taliban yn dweud mai eu haelodau nhw sy’n gyfrifol am ymosodiadau ar ddinasoedd Kabul, Jalalabad a Gardez yn Affganistan heddiw.

Roedd yn ymosodiadau yn Kabul mewn un ardal sy’n agos i’r senedd ac mewn ardal arall ble mae yna sawl llysgenhadaeth a chanolfan NATO.

Gwelwyd mwg yn codi o lysgenhadaeth yr Almaen a saethwyd ffrwydron at lysgenhadaeth Rwsia ac at adeilad sy’n cael ei ddefnyddio gan ddiplomatwyr o Brydain.

Mae asiantaeth newyddion o Ffrainc yn dweud bod gwesty newydd y Kabul Star hefyd ar dân.

Dyma’r ymosodiad cyntaf yn Kabul ers mis Chwefror pan saethwyd dau filwr gan un o weithwyr y llywodraeth.

Draw yn Jalalbad yn y dwyrain mae hunan-fomwyr wedi ymosod ar y maes awyr ac ar ganol y ddinas.

Mae nifer yr ymosodiadau gan y Taliban yn tueddu i gynyddu yr adeg yma o’r flwyddyn gan eu bod yn cael trafferth crwydro’r wlad yn ystod y gaeaf.