Mae banc canolog China wedi dweud y byddwn nhw’n caniatáu i werth yr yuan godi’n gyflymach.

Mae’r banc wedi ei feirniadu gan wledydd eraill am gadw gwerth y yuan yn isel.

Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cwyno droeon nad yw gwerth y yuan yn ddigon uchel a bod hynny’n rhoi mantais i allforwyr China.

Dywedodd y banc canolog y bydd yn caniatáu i werth y yuan newid hyd at 1% yn erbyn y ddoler bob dydd gan ddechrau dydd Llun.

Mae hynny’n gynnydd o 0.5% ar beth oedd yn cael ei ganiatáu yn flaenorol.

Mae’n annhebygol y bydd y cyhoeddiad yn bodoli beirniaid polisïau economaidd China, ac mae Beijing eisoes wedi dweud mai eu nod hir dymor yw cadw gwerth y yuan yn isel.