Kim Jong Un
Mae llongau rhyfel Gogledd Korea wedi eu gwasgaruy ar draws y Môr Melyn yn y gobaith o ddod o hyd i weddillion roced a chwalodd eiliadau ar ôl tanio.

Mae gwledydd eraill wedi beirniadu’r ymdrech i danio’r roced, ac mae’r methiant wedi bod yr ergyd i arweinydd newydd y wlad, Kim Jong Un.

Roedd Pyongyang wedi gobeithio y byddai lansio’r roced yn hwb i’r wlad yn ystod cyfnod o galedi economaidd mawr.

Roedd y lansio i fod yn uchafbwynt dathliadau dewis Kim Jong Un i olynu ei dad yn arweinydd y wlad.

Lansiwyd y roced ar 100fed pen-blwydd ei dad-cu, sylfaenydd Gogledd Korea, Kim Il Sung.

Ond cyfaddefodd y wlad bod y roced wedi disgyn yn ddarnau yn fuan ar ôl lansio. Doedd y lloeren yr oedd y roced yn ei gario heb gyrraedd y gofod, medden nhw.

Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud na fyddwn nhw’n darparu bwyd ar gyfer y wlad yn dilyn lansio’r roced, ac maen nhw wedi rhybuddio yn erbyn prawf niwclear arall.