Mae senedd Portiwgal wedi rhoi ei sêl bendith i gytundeb ariannol sy’n gobeithio atal gor-wario gan lywodraethau a lleddfu dyledion gwledydd yr ewro.

Mae gan Bortiwgal un o’r economïau mwyaf bregus o’r 17 gwlad sy’n defnyddio’r ewro, a’r llynedd roedd angen benthyciad o 78 biliwn ewro arni i osgoi methdalu.

Roedd pwysau mawr ar Bortiwgal i dderbyn y cytundeb gan ei fod yn amod ar gyfer cymorth ariannol pellach gan wledydd yr ewro. Pleidleisiodd 204 o aelodau seneddol o blaid a 24 yn erbyn, ac ymataliodd dau.

Bydd Iwerddon yn cynnal refferendwm ar yr un cytundeb ar Fai 31.

Gwrthododd David Cameron ag arwyddo’r cytundeb oherwydd ei bryder y byddai’n cael effaith ar ganolfan ariannol Dinas Llundain.