Mae tri wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad trên ger Frankfurt yn yr Almaen.
Dywedodd yr heddlu bod 13 person wedi eu hanafu, chwech ohonynt yn ddifrifol, pan wrthdarodd trên teithwyr â thrên adeiladu yn gynharach heddiw.
Dywedodd asiantaeth newyddion Dapf y wlad bod tocynnwr y trên teithiwr yn ogystal â dau adeiladwr oedd yn gweithio ar y safle wedi eu lladd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger tref Muelheim.
Dywedodd yr awdurdodau nad oes yna ddim awgrym eto ynglŷn â beth achosodd y ddamwain.