Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud wrth gadeirydd Tata fod y cwmni dur yn “bwysig iawn” i economi Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod ar ymweliad ag India yr wythnos yma a chyfarfu gyda chadeirydd Tata, Balasubramanian Muthuraman, ym Mumbai. Mae cwmni Tata yn cyflogi bron i 8,000 o bobl yng Nghymru, yn bennaf ym Mhort Talbot a Llanwern.

“Hoffwn ddiolch i Mr B Muthuraman am gyfarfod calonogol ac adeiladol” meddai Carwyn Jones.

“Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Tata i economi Cymru ac rydyn ni’n meddwl yn fawr o’r berthynas glos ac agored sydd gennym”

Mae Tata ar hyn o bryd yn buddsoddi £185 miliwn ar adeiladu ffwrnais yng ngweithfeydd dur Port Talbot.

Yn dilyn ei gyfarfod gyda Tata bu’r Prif Weinidog mewn cinio busnes gyda chwmnïau o India cyn cynnal trafodaethau gyda Prithviraj Chavan, Prif Weinidog talaith Maharashtra. Talaith Maharashtra, sy’n cynnwys dinas Mumbai, yw un o daleithiau mwyaf cyfoethog India ac mae 112 miliwn o bobl yn byw yno.