Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae’n ymddangos bod y trais yn Syria wedi tawelu heddiw wrth i gadoediad y Cenhedloedd Unedig ddod i rym.

O dan gynllun heddwch y llysgennad rhyngwladol Kofi Annan, roedd y cadoediad i ddod i rym am 6am yn Syria, gyda thrafodaeth i ddilyn rhwng yr Arlywydd Bashar Assad a’r lluoedd sy’n gwrthwynebu’r gyfundrefn yn y wlad.

Ond ychydig iawn o obaith sydd y bydd y trais, sydd wedi para am 13 mis ac sydd wedi lladd mwy na 9,000 o bobl, yn dod i ben yn fuan.