Arfordir Indonesia
Mae Prydeinwyr sydd ar wyliau yn ne ddwyrain Asia wedi cael eu cynghori i ddilyn cyngor  yr awdurdodau lleol ar ôl daeargryn yn Indonesia.

Roedd y daeargryn ger arfordir Gogledd Sumatra yn mesur 8.7 ac mae na bryderon y gall tswnami ddilyn.

Fe achosodd anrhefn ar strydoedd talaith Aceh gyda rhuthr i fynd at dir uchel a phobl yn gwrthod mynd nôl mewn i’w cartrefi a swyddfeydd yno.

Bu farw 170,000 o bobl yn Aceh mewn  tswnami ar Ŵyl San Steffan yn 2004 yn dilyn daeargryn yn Sumatra.

Dywedodd y Swyddfa Dramor bod rhybudd am tswnami ar draws gwledydd Cefnfor India ac y dylai pobl wrando ar adroddiadau newyddion a dilyn cyngor yr awdurdodau lleol.

Mae Prydeinwyr hefyd yn cael eu cynghori i ffonio eu teuluoedd i adael iddyn nhw wybod eu bod yn ddiogel.

Mae’r rhybudd am tswnami ar draws gwledydd Cefnfor India yn cynnwys De Affrica, Awstralia, Gwlad Thai, y Maldives, India, Sri Lanka, Malaysia a Burma.