Mitt Romney sydd fwyaf tebygol o gynrychioli'r Gweriniaethwyr
Mae Rick Santorum wedi rhoi’r gorau i’w ymgyrch i gynrychioli’r Gweriniaethwyr gan olygu mai Mitt Romney sydd fwyaf tebygol o herio’r Arlywydd Barack Obama.

Fe wnaeth y cyn seneddwr y cyhoeddiad yn ei dalaith Pennsylvania, bythefnos cyn y bleidlais yno. Roedd Mitt Romney ar y blaen yn y polau piniwn yn y dalaith, ac roedd Rick Santorum wedi dweud bod yn rhaid iddo ennill ym Mhensylvannia er mwyn cadw ei ymgyrch yn fyw.

“Mae’r ras drosodd i fi,” dywedodd Rick Santorum wrth ei gefnogwyr, gan ddweud ei fod ef a’i deulu wedi dod i’r penderfyniad dros y penwythnos ar ôl i’w ferch dair oed gael ei chludo i’r ysbyty unwaith eto. Mae hi’n dioddef o gyflwr genetig.

Roedd Rick Santorum yn ffefryn ymhlith pleidleiswyr mwy ceidwadol y Gweriniaethwyr ond roedd Mitt Romney, cyn llywodraethwr Massachusetts, wedi sicrhau cefnogaeth nifer helaeth y blaid ym mis Awst.

Wrth gyhoeddi diwedd ei ymgyrch, doedd dim sôn a fyddai Rick Santorum yn taflu ei bwysau y tu ôl i ymgyrch Mitt Romney.