Anders Breivik
Nid yw’r dyn sydd wedi cyffesu i ladd 77 o bobl yn Norwy yn “droseddol wallgof” yn ôl archwiliad seiciatryddol newydd.

Daw’r casgliad diweddaraf chwe niwrnod cyn i Anders Breivik ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau o derfysgaeth yn sgil yr ymosodiadau yn Norwy ar 22 Gorffennaf y llynedd.

Mae canfyddiad yr archwiliad seiciatryddol ar Anders Breivik yn wahanol i archwiliad blaenorol a ddywedodd nad oedd y dyn 33 oed o Norwy yn ei iawn bwyll. Yn sgil yr adroddiad yna dywedodd erlynwyr y dylai Breivik gael ei anfon i sefydliad iechyd meddwl yn hytrach na charchar.

Mae Anders Breivik wedi cyffesu mai ef a gyflawnodd yr ymosodiadau, ond mae’n gwadu ei fod yn euog yn droseddol. Dywedodd fod yr ymosodiadau yn rhan o ryfel yn erbyn Moslemiaeth yn Ewrop.