Tokyo, cartref pencadlys Sony
Mae cwmni Sony yn bwriadu cyhoeddi y byddwn nhw’n torri 10,000 o swyddi ledled y byd dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ceisio gwneud elw.

Daw’r adroddiadau ym mhapur newydd dyddiol busnes Nikkei a chyfryngau eraill y Japan.

Daw penderfyniad cwmni Sonī Kabushiki Gaisha i ddiswyddo 6% o’u gweithlu am nad yw setiau teledu yn gwerthu cystal ag oedden nhw wedi ei obeithio, meddai cyfryngau’r wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Sony, Yoko Yasukouchi, nad oedd hi’n gallu cadarnhau’r adroddiadau.

Fe fydd y Prif Weithredwr newydd, Kazuo Hirai, yn cynnal cynhadledd i’r wasg ddydd Iau.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Sony eu bod nhw wedi gwneud colled o ¥159 biliwn (£1.2 biliwn) yn chwarter olaf 2011.