Mae gweinidog mwyngloddio Periw wedi galw am gymorth er mwyn rhyddhau naw o fwynwyr sydd wedi eu caethiwo dan y ddaear ers pedwar diwrnod.

Mae’r gweinidog yn gobeithio y bydd cwmnïau yn darparu offer trwm ac arbenigwyr er mwyn rhyddhau’r dynion o’r gloddfa gopr.

Mae degau o achubwyr wedi bod yn defnyddio picasau a rhawiau er mwyn ceisio symud 26 troedfedd o bridd a charreg sydd wedi syrthio ar fynedfa’r fwynglawdd.

Mae’r fynedfa wedi ei dyllu i mewn i ochor mynydd 175 milltir i’r de ddwyrain i’r brifddinas Lima.

Mae’r achubwyr yn defnyddio trawstiau pren er mwyn symud y pridd ond dywedodd y gweinidog Jorge Merino fod angen offer trwm er mwyn cwblhau’r gwaith.

Syrthiodd y pridd a’r cerrig yn dilyn ffrwydrad a osodwyd gan y mwynwyr eu hunain ddydd Iau.

Mae’r achubwyr wedi gallu cysylltu â’r mwynwyr a darparu diod ar eu cyfer drwy osod pibell i mewn i’r fwynglawdd.

Fe fu farw 52 o fwynwyr yn Periw y llynedd o ganlyniad i ddamweiniau yn y gweithle.