Arlywydd Assad Syria
Mae milwyr Syria wedi dienyddio dros 100 o bobol, y rhan fwyaf yn ddinasyddion, heb achos llys, honnodd grŵp hawliau dynol rhyngwladol heddiw.

Mae adroddiad gan Human Rights Watch yn dweud bod nifer wedi eu lladd ar yr un pryd yn rhanbarthau Homs ac Idlib.

Dywedodd y grŵp sy’n â’i bencadlys yn Efrog Newydd eu bod nhw wedi cynnwys achosion yr oedd llygaid dystion wedi eu gweld yn unig.

Ond roedd tystiolaeth bod llawer mwy wedi eu dienyddio yn yr un modd, medden nhw.

Digwyddodd y dienyddiadau dros gyfnod o bedwar mis, y rhan fwyaf ohonyn nhw ym mis Mawrth, meddai Human Rights Watch.

Mae byddin Syria wedi bod yn ymosod yn ffyrnig ar wrthryfelwyr ledled y wlad er mwyn ceisio cau pen y mwdwl ar y rhyfel cartref 13 mis yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.

Mae’r weinyddiaeth dan bwysau gan wledydd eraill i sicrhau bod y fyddin yn gadael dinasoedd mawr erbyn yfory.

Ond mae’r llywodraeth wedi dweud eu bod nhw eisiau sicrwydd y bydd y gwrthryfelwyr yn rhoi eu harfau o’r neilltu.