Mae pennaeth niwclear Iran wedi awgrymu y bydd Tehran yn cynnig cyfaddawd wrth drafod ei raglen niwclear â chynrychiolwyr gwledydd y gorllewin yr wythnos yma.

Mae’r Gorllewin yn ofni bod Tehran yn gobeithio creu arf niwclear, tra bod y wlad yn honni fel arall.

Rhaid cyfoethogi wraniwm hyd at 90% er mwyn ei ddefnyddio mewn arf niwclear.

Dywedodd pennaeth niwclear Iran, Fereidoun Abbasi, ei fod yn bosib y bydd Tehran yn cynnig cyfoethogi wraniwm hyd at 20%.

Dyna faint sydd ei angen er mwyn defnyddio wraniwm wrth gynhyrchu ynni.

Bydd y trafodaethau yn cael eu cynnal yn Istanbul ddydd Gwener, 14 mis ar ôl i’r trafodaethau diweddaraf ddod i ben yn gynnar oherwydd ffraeo.