Kim Jong Un
Mae Gogledd Korea yn tyllu twnnel tanddaearol newydd a’r gred yw eu bod nhw’n bwriadu cynnal prawf niwclear arall, yn ôl De Korea.

Mae adroddiad gan swyddogion cudd-wybodaeth yn dweud bod lluniau lloeren yn dangos mynydd o bridd wrth fynediad y twnnel sydd newydd ei gloddio.

Yn ôl adroddiadau mae’r gwaith o dyllu’r twnnel yng ngogledd ddwyrain y wlad yn agosáu at y terfyn.

Dywed arbenigwyr y bydd angen defnyddio’r pridd er mwyn ail-lenwi’r twnnel cyn tanio’n bom niwclear.

Daw’r adroddiad wrth i Ogledd Korea baratoi i danio roced pellter hir rhwng 12 ac 16 Ebrill.

Mae’r Unol Daleithiau yn honni mai cyfle i arbrofi â thaflegrau a allai daro gwledydd eraill yw hi.