Mae dinas yn Alaska wedi gweld mwy o eira yn ystod y gaeaf eleni nag ers 57 mlynedd.

Mae dros ddwywaith cymaint o eira a’r arfer wedi disgyn yn Anchorage ers dechrau’r gaeaf.

Syrthiodd 132.6 modfedd o eira yn 1954-55, ond mae 133.6 modfedd bellach wedi disgyn yn 2011-12, ar ôl 4.4 modfedd ychwanegol ddydd Sadwrn.

Mae rhai strydoedd yn y ddinas wedi eu troi i mewn i geunentydd eira sy’n taflu eu cysgodion dros y tai. Mae nifer o hen adeiladu wedi chwalu oherwydd pwysa’r eira ar eu toeau.

Mae tywydd llym hefyd wedi taro’r 48 talaith i’r de o Alaska. Gwelodd tri mis cyntaf 2012 dwywaith gymaint o gorwyntoedd a’r cyfartaledd, yn ogystal ag un o’r gaeafau cynhesaf ers dechrau cofnodion.

Mae gwyddonwyr wedi dweud y gallai newid hinsawdd fod ar fai, am ei fod yn arwain at ragor o dywydd eithafol.