Traffordd yn China
Mae 14 person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad bws yn China.
Roedd 25 o bobol ar y bws pan adawodd y ffordd a glanio mewn pant yn nwyrain y wlad.
Dywedodd asiantaeth newyddion swyddogol y wlad heddiw bod 11 o bobol yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ger dinas arfordirol Dalian.
Does dim cadarnhad beth achosodd y ddamwain ond mae’r gwasanaethau brys yn parhau i ymchwilio.
Mae diogelwch ar y ffyrdd yn broblem ddifrifol yn China. Mae nifer yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i ffyrdd gwael a sgiliau gyrru sâl.