Mae’r Pab wedi defnyddio ei neges ar Sul y Pasg er mwyn galw ar weinyddiaeth Syria i wrando ar alwadau rhyngwladol iddyn nhw ddod a’r tywallt gwaed yno i ben.

Ar ôl dathlu’r offeren yn Sgwâr Sant Pedr, dywedodd Bened XVI ei fod yn gobeithio y byddai neges atgyfodiad Iesu yn gysur i’r cymunedau Cristnogol oedd yn dioddef o ganlyniad i’w ffydd.

Roedd llais y Pab yn gryglyd wrth iddo siarad o flaen tyrfa o fwy na 100,000 o Gatholigion.

Ychydig oriau ynghynt roedd wedi cynnal gwylnos tair awr o hyd y tu mewn i Fasilica Sant Pedr.

“Gobeithio y bydd Iesu yn rhoi gobaith newydd i’r Dwyrain Canol ac yn sicrhau bod yr holl grwpiau ethnig, diwylliannol a chrefyddol yno yn cydweithio er lles daioni a hawliau dynol,” meddai.

“Yn Syria yn arbennig, gobeithio y bydd y tywallt gwaed yn dod i ben ac ymroddiad newydd i’r parch, trafod a chymodi y mae’r gymuned ryngwladol wedi bod yn galw amdano.”

Dywedodd ei fod hefyd yn gobeithio y bydd y ffydd Gristnogol o gymorth i bobol Nigeria, sydd wedi dioddef sawl ymosodiad terfysgol, a Mali, yn dilyn y gwrthryfel yng ngogledd y wlad.