Milwyr o fyddin Pacistan yn cludo cyflenwadau yn ardal y tirlithriad yn gynharach eleni (AP Photo/Anja Niedringhaus)
Mae 100 o filwyr ar goll ar ôl i lithriad eira daro un o wersylloedd milwrol Pacistan ar rewlif ar y ffin ag India ym mynyddoedd yr Himalayas.

Mae hofrenyddion, cŵn arogli a milwyr wedi cael eu hanfon at y rhewlif i chwilio am y rhai sydd wedi cael eu claddu yn yr eira.

Cafodd y gwersyll ei daro’n gynnar y bore yma.

Mae rhewlif Siachen ar benrhyn gogleddol rhanbarth cythryblus Kashmir sy’n cael ei hawlio gan India a Phacistan.

Oerfel

Mae’r ddwy wlad yn cadw cannoedd o filwyr yno, sy’n dioddef oerfel, salwch uchder a gwyntoedd cryfion am fisoedd ar y tro. Mae mwy o filwyr wedi marw o achos y tywydd garw yno na thrwy ymladd.

Gyda’r milwyr yn cael eu gyrru i uchelderau o hyd at 6,700 metr, caiff y rhewlif ei adnabod fel maes brwydro ucha’r byd.

Dechreuodd y gwrthdaro pan wnaeth India feddiannu rhannau uchaf y rhewlif 49 milltir, yn 1984, gan ofni bod ar Bacistan eisiau hawlio Kashmi. Fyth ers hynny, mae’r ddwy fyddin yng ngyddfau ei gilydd er gwaethaf cadoediad.

Mae’r ddwy wlad wedi ymladd tri rhyfel ers i’r is-gyfandir gael ei wahanu yn dilyn annibyniaeth oddi wrth Brydain yn 1947. Roedd dau o’r rhyfeloedd ynghylch Kashmir, gyda’r ddwy wlad yn ei hawlio’n gyfan gwbl.