Jill Evans
Mae gwleidydd o Gymru wedi anfon neges o Dwrci i annog yr Undeb Ewropeaidd i wrthod rhoi aelodaeth i’r wlad.

Yn ôl yr Aelod o’r Senedd Ewropeaidd, Jill Evans, mae cynnydd yn yr ormes ar leafrif Cwrdaidd Twrci yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed i’w gwrthod hi.

Fe ddaw ei galwad ar ôl i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Tramor yn San Steffan annog derbyn Twrci i’r Undeb, gan ddadlau bod ei heconomi hi’n ffynnu.

‘Gwaethygu’

Mae’r gwleidydd o Blaid Cymru ar ymweliad â Thwrci ar hyn o bryd yn cyfarfod gyda gwleidyddion ac ymgyrchwyr Cwrdaidd.

Mae’n dweud bod triniaeth Twrci o’r Cwrdiaid yn gwaethygu gyda phlant hyd yn oed wedi cael eu carcharu.

Ar wahanol adegau, mae’r wladwriaeth wedi gwahardd y Cwrdiaid rhag defnyddio’u hiaith eu hunain ac mae wedi cael ei chyhuddo o ddinistrio rhai o’u pentrefi yn nwyrain y wlad.

‘Carcharu plant’ – tystiolaeth Jill Evans

Dyma oedd gan Jill Evans i’w ddweud:

“Ers 2009 mae Llywodraeth Twrci wedi carcharu bron i 9,000 o Gwrdiaid, gan gynnwys 6 Aelod Seneddol, 31 maer, 96 newyddiadurwyr, 36 cyfreithiwr, 183 arweinydd o’r blaid BDP (Plaid Heddwch a Democratiaeth), undebwyr, ymgyrchwyr hawliau dynol a bron i 2,000 o blant.

“Mae byddin Twrci wedi ymosod ar Gwrdiaid ar y ffin â Irac, gyda thebygolrwydd bod arfau cemegol wedi cael eu defnyddio.

“Mae Plaid Cymru wedi lleisio ei hanfodlonrwydd â’r sefyllfa ers blynyddoedd, ac rydym wedi galw ar lywodraeth Twrci i ddiwygio a derbyn fod gan y Cwrdiaid hawliau.

Galw ar Dwrci i sicrhau hawliau dynol

“Rydym wedi galw ar lywodraeth Twrci i sicrhau fod hawliau dynol carcharorion fel Abdullah Ocalan, y gwleidydd Cwrdaidd, yn cael eu parchu,” meddai Jill Evans.

Rydym yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol  i wrthod croesawu Twrci i’r Undeb Ewropeaidd tan fydd y wlad yn parchu hawliau dynol y Cwrdiaid.

“Rwyf wedi clywed fy hun yn y ddau ddiwrnod yma bod y sefyllfa yn gwaethygu gyda miloedd yn y carchar yn cynnwys newyddiadurwyr a phlant. Nawr mwy nag erioed o’r blaen, felly, mae rhaid mynnu newid cyn y gall Dwrci ymuno a’r Undeb Ewropeaidd.”