Mitt Romney
Mitt Romney yw’r ceffyl blaen clir i sefyll ar ran y Blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau ar ôl iddo ennill yr enwebiad mewn tair talaith y bore yma.

Cafodd fuddugoliaethau clir ym Maryland, Wisconsin a Washington ac anogodd ei blaid i droi ei golygon at yr etholiad arlywyddol ei hun a’r frwydr yn erbyn Barack Obama.

Mae’r buddugoliaethau yn ymestyn mantais Mitt Romney dros ei brif wrthwynebydd, Rick Santorum, sydd dan bwysau bellach i roi’r gorau i’r frwydr am yr enwebiad er lles undod y blaid Weriniaethol.

Ond, wrth annerch ei gefnogwyr yn ei dalaith ei hun, Pennsylvania, dywedodd Rick Santorum nad oedd bwriad ganddo i ildio’r ras.

Y manylion

Cipiodd Mitt Romney 48% o’r bleidlais ym Maryland, ac mae’r cyfri cynnar yn Wisconsin a Washington yn awgrymu ei fod wedi ennill 43% a 69% o’r bleidlais yn y ddwy dalaith hynny.

Mewn cyfweliad teledu dywedodd Mitt Romney fod angen troi golygon y Blaid Weriniaethol at yr etholiad arlywyddol.

“Y peth priodol i ni nawr yw cael enwebydd fel ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar Barack Obama.”