Cynhaliwyd ralïau mawr ar draws Ffrainc ddydd Sadwrn i alw am fwy o hawliau i ieithoedd lleiafrifol y wlad.
Mae gan Ffrainc amryw o ieithoedd llai. Mae corff diwylliannol ac addysgol y Cenhedloedd Unedig, UNESCO, wedi dynodi bod rhai o’u plith, megis y Llydaweg, yr Auvergnat, a’r Provençal, mewn “perygl difrifol”.
Mae’r Fasgeg a’r Fflemeg hefyd mewn sefyllfa “fregus” o fewn tiriogaeth Ffrainc, medd UNESCO.
O blith y gorymdeithiau mwyaf eu maint ddydd Sadwrn, daeth tua 25,000 o bobl ynghyd yn ninas Toulouse o blaid yr Ocsitaneg, sy’n cael ei siarad ar draws de Ffrainc.
Gorymdeithiodd 10,000 o bobl o blaid y Llydaweg yn Kemper a 7,000 dros y Fasgeg yn Bayonne. Bu gorymdeithiau eraill yn Strasbourg, yng Nghorsica ac ym Metz.
Yng nghyfansoddiad Ffrainc mae erthygl rhif dau yn datgan mai “Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth”, a mae hyn wedi cael ei defnyddio er mwyn gwadu cydnabyddiaeth i ieithoedd eraill y wlad.
Dywedodd Davyth Hicks o gorff Eurolang fod Ffrainc yn “ddihiryn o wladwriaeth o ran y modd y mae’n hyrwyddo ei hieithoedd llai”.