(Llun: Igor Nikolajeviĉ Pivovarov)
Mae 31 o bobol wedi marw ar ôl i awyren chwalu yn Siberia yn fuan ar ôl gadael y llain lanio.
Mae 12 o bobol yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Roedd yr awyren ATR-72 yn hedfan o Tyumen i dref olew Surgut â 43 o bobol arno – 39 o deithwyr a phedwar aelod o’r criw.
Syrthiodd yr awyren dros gae eiraog y tu allan i Tyumen, canolfan rhanbarthol o bwys yn Siberia. Dyw hi ddim yn amlwg eto beth achosodd y chwalfa.
Aethpwyd a 12 o oroeswyr i’r ysbyty ond mae un bellach wedi marw. Mae un arall yn cael ei drin mewn ysbyty pentref.