Tsunami mis Mawrth y llynedd
Mae arbenigwyr wedi dod i’r casgliad y gallai tsunami 112 troedfedd o uchder daro arfordir dwyreiniol y wlad.

Roedd y llywodraeth wedi comisiynu panel i ymchwilio i’r mater yn dilyn y daeargryn 9.0 ar y raddfa Richter a’r tsunami a darodd gogledd-ddwyrain y wlad ym mis Mawrth y llynedd.

Yn 2003 penderfynodd arbenigwyr mai 66 troedfedd oedd y tsunami uchaf posib allai daro’r wlad.

Ond ar ôl ymchwil pellach mae arbenigwyr wedi dod i’r casgliad y byddai daeargryn 9.0 ar y raddfa Richter yng nghafn Nankai ger ynysoedd Honshu a Kyushu yn creu tsunami 112 troedfedd o uchder.

Pe bai hynny’n digwydd fe fyddai y rhan fwyaf o arfordir dwyreiniol y wlad yn cael ei daro gan tsunami 65 troedfedd o uchder ar gyfartaledd.

Bwriad yr ymchwil oedd paratoi’r wlad ar gyfer trychinebau’r dyfodol.