Aung San Suu Kyi
Mae plaid wleidyddol Aung San Suu Kyi yn honni heddiw ei bod hi wedi ennill sedd yn Senedd Burma ar ôl etholiad hanesyddol.

Fe fyddai’r fuddugoliaeth yn dirnod pwysig yn hanes y wlad sydd wedi bod dan reolaeth y fyddin ers bron i hanner canrif.

Mae’r llywodraeth yno yn gobeithio y bydd y gorllewin yn llacio sancsiynau os ydyn nhw’n cynnal etholiadau democrataidd.

Ymddangosodd neges yn dweud fod Aung San Suu Kyi wedi ennill sedd uwchben pencadlys y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth yn Rangoon.

Yn gynharach dywedodd y blaid bod Aung San Suu Kyi ar y blaen â 65% o’r bleidlais ar ôl cyfri yn 82 o 129 orsaf bleidleisio yn ei hetholaeth.

Mae’r cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel 66 oed wedi ei charcharu yn ei chartref gan y jwnta milwrol ers bron i ddau ddegawd.

Bydd canlyniadau’r etholiad yn cael eu cadarnhau gan gomisiwn etholiadol y wlad o fewn y dyddiau nesaf.

Er gwaetha’r fuddugoliaeth honedig mae’r blaid yn dadlau bod “anghysondebau rhemp” ar y diwrnod pleidleisio.

Bydd yr isetholiad yn llenwi pum sedd wag yn Senedd 664 sedd y wlad sy’n cael ei reoli i raddau helaeth gan gyn-gadfridogion.