Mae dyn wedi cael ei ladd gan siarc wrth ddeifio gyda’i frawd yn ne-orllewin Awstralia.

Dyma’r pedwerydd ymosodiad gan siarc yn Awstralia ers mis Medi. Maen nhw i gyd wedi digwydd yn ne-orllewin y wlad.

Dywedodd y Rhingyll Naomi Smith o’r heddlu lleol fod y ddau frawd yn deifio oddi ar gwch ar draeth Stratham, tua 140 milltir i’r de o Perth, pan ymosododd y siarc ar un o’r brodyr.