Osama bin Laden
Roedd Osama bin Laden wedi byw mewn pum tŷ gwahanol pan oedd ar ffo ym Mhacistan, a daeth yn dad pedair gwaith, yn ôl ei wraig weddw

Daeth y manylion am fywyd cyn-arweinydd al Qaida i glawr yn sgil datgelu cyfweliad y gwasanaethau cudd â Amal Ahmed Abdel-Fata al-Sada, ei weddw o Yemen.

Mae’r manylion yn codi cwestiynau pellach ynglŷn â sut y llwyddodd bin Laden i gadw’i draed yn rhydd cyhyd.

Cafodd y manylion eu cyhoeddi ym mhapur newydd Pacistan, Dawn.

Mae Al-Sada dan glo ym Mhacistan ar hyn o bryd, â dwy wraig weddw arall a nifer o blant Osama bin Laden.

Cafodd y gwragedd a’u plant eu harestio gan luoedd arbennig yr Unol Daleithiau a laddodd bin Laden fis Mai diwethaf yn ei guddfan yn nhref Abbottabad.

Saethwyd Al-Sada yn ei choes gan un o filwyr yr Unol Daleithiau yn ystod y cyrch.

Yn ystod y chwilio mawr am Bin Laden, roedd y rhan fwyaf o swyddogion yr Unol Daleithiau a Phacistan wedi yn dweud bod Bin Laden yn debygol o fod yn byw rhywle ar hyd y ffin anghysbell rhwng Afghanistan a Phacistan, o bosib mewn ogof.

Mae’r ffaith iddo gael ei ddarganfod yn y diwedd yn byw yn un o ardaloedd mwyaf poblog Pacistan wedi codi amheuon bod lluoedd diogelwch Pacistan yn ei warchod.

Ond mae swyddogion yr Unol Daleithiau wedi dweud nad oed ganddyn nhw unrhyw dystiolaeth fod hynny’n wir.