Siop yng Nghalabria
Mae heddlu yn yr Eidal wedi arestio 63 o bobol ar ôl cyrch yn ardal de Calabria, gan dargedu gang troseddol ‘Ndrangheta.
Maen nhw wedi arestio llu o bobol oedd dan amheuaeth o 12 llofruddiaeth yn ystod y degawdau diweddaeaf, yn ogystal a llawer iawn o droseddau eraill.
Dywedodd yr erlynydd Eugenio Facciolla, oedd wedi cydlynnu’r ymchwiliad, fod yr arestiadau wedi llwyddo i “rwygo rhai o’r gangiau troseddol peryglus yn ddarnau”.
Mae’r ymchwilwyr yn credu bod dylanwad ‘Ndrangheta ar gymdeithas yn ymestyn ymhell tu hwnt i’w gwreiddiau gwledig yng Nghalabria.